
Public consultations on two joint Wales Fisheries Management Plans have been published
Public consultations on two joint Wales and England Fisheries Management Plans (FMPs) have been published today.
The two plans focus on king scallops and seabass and are included in the first group of FMPs in the UK to be consulted on.
FMPs will set out the policies and strategic direction for the management of fisheries to ensure fish stocks are restored and maintained at sustainable levels.
Each FMP will specify the fish stock, type of fishing, area covered, authority responsible and the indicators to be used for monitoring the effectiveness of the plan.
Taken together, the creation of the Fisheries Act, the Joint Fisheries Statement and FMPs will create a step change in fisheries management in the UK.
The FMPs published today are the first of 43 to be published over the next six years in the UK.
The consultation, running from 17 July to 1 October 2023, will welcome views from all those interested and affected by the proposed policies.
Lesley Griffiths, Minister for Rural Affairs and North Wales, and Trefnydd said:
“I am pleased to be launching these consultations jointly with the UK Government following close collaboration. King scallops and seabass have been prioritised because of their importance to Wales and potential vulnerability.
“These FMPs reflect the devolved nature of fisheries, whilst recognising the benefits of joined up working. We all want to see fishing industries which are sustainable and environmentally responsible, as well as economically viable and thriving.
“I want to thank everyone, including the industry, who have engaged with us during the development stage and I now look forward to hearing views on the proposals we have set out.”
Ymgynghoriad ar Gynlluniau Rheoli Pysgodfeydd cyntaf Cymru
Mae ymgyngoriadau cyhoeddus ar ddau Gynllun Rheoli Pysgodfeydd ar y cyd rhwng Cymru a Lloegr wedi’u cyhoeddi heddiw.
Mae’r ddau gynllun yn canolbwyntio ar gregyn y brenin a draenogiaid môr ac maen nhw wedi’u cynnwys yn y grŵp cyntaf o Gynlluniau Rheoli Pysgodfeydd yn y DU i fod yn destun ymgynghoriad.
Bydd y Cynlluniau yn nodi’r polisïau a’r cyfeiriad strategol ar gyfer rheoli pysgodfeydd er mwyn sicrhau bod stociau pysgod yn cael eu hadfer a’u cynnal ar lefelau cynaliadwy.
Bydd pob Cynllun yn nodi’r stoc bysgod, y math o bysgota, yr ardal dan sylw, yr awdurdod sy’n gyfrifol a’r dangosyddion sydd i’w defnyddio ar gyfer monitro effeithiolrwydd y cynllun.
Gyda’i gilydd, bydd creu’r Ddeddf Bysgodfeydd, y Cyd-ddatganiad Pysgodfeydd a’r Cynlluniau hyn yn newid y ffordd y mae pysgodfeydd yn cael eu rheoli’n sylweddol yn y DU.
Y Cynlluniau Rheoli Pysgodfeydd a gyhoeddwyd heddiw yw’r cyntaf o 43 i’w cyhoeddi dros y chwe blynedd nesaf yn y DU.
Bydd yr ymgynghoriad, a gynhelir rhwng 17 Gorffennaf ac 1 Hydref 2023, yn croesawu barn pawb sydd â diddordeb a’r bobl hynny y bydd y polisïau arfaethedig yn effeithio arnynt.
Dywedodd Lesley Griffiths, y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd:
“Rwy’n falch o lansio’r ymgyngoriadau hyn ar y cyd â Llywodraeth y DU yn dilyn cydweithio agos. Mae cregyn y brenin a draenogiaid môr wedi cael blaenoriaeth oherwydd eu pwysigrwydd i Gymru a’u bregusrwydd posibl.
“Mae’r Cynlluniau hyn yn adlewyrchu natur ddatganoledig pysgodfeydd, tra’n cydnabod manteision gweithio cydgysylltiedig. Rydym i gyd eisiau gweld diwydiannau pysgota sy’n gynaliadwy ac yn amgylcheddol gyfrifol, yn ogystal â bod yn hyfyw yn economaidd ac yn ffyniannus.
“Hoffwn ddiolch i bawb, gan gynnwys y diwydiant, sydd wedi ymgysylltu â ni yn ystod y cam datblygu ac rwy’n edrych ymlaen nawr at glywed barn am y cynigion rydym wedi’u nodi.”
The King scallop consultation can be found here.
https://www.gov.wales/king-scallop-fisheries-management-plan
https://www.llyw.cymru/cynllun-rheoli-pysgodfeydd-cregyn-y-brenin
The Seabass consultation can be accessed here.
https://www.gov.wales/bass-fisheries-management-plan
https://www.llyw.cymru/gynllun-rheoli-drafft-pysgodfeydd-draenogiaid-mor
Source: Press Release